Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 1 & 2
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mai 2023
Amser:
10.35 -
15.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13599
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Gruffydd Owen Manon Huws |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Murphy. Ni chafwyd dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth oddi wrth Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) at y Cadeirydd ynghylch cyfiawnder data
2.2 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cadeirydd ynghylch y Rhaglen Cartrefi Clyd
2.3 Gohebiaeth oddi wrth y Comisiynydd Plant at y Cadeirydd ynghylch adroddiad diweddar y Pwyllgor: 60% – Rhoi llais iddyn nhw Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid
2.4 Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus
2.5 Gohebiaeth rhwng Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Cadeirydd ynghylch craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: Grŵp cynghori
Cyfarfu'r Aelodau â'r grŵp cynghori.
5 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: Trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod eu sesiwn gyda'r grŵp cynghori.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus – ystyried y dull gweithredu
Trafododd yr Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft yn ystod y cyfarfod nesaf.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mudo Anghyfreithlon – ystyried y dull gweithredu
Trafododd yr Aelodau'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd ar eu dull o graffu.